Helpline 0800 068 63 68
Home-Start: support & friendship for families Home-Start: support & friendship for families

Cymraeg

Home-Start yw elusen fwyaf blaenllaw y DU sy'n rhoi cefnogaeth i deuluoedd.


Mae gennym rwydwaith o dros 15,722 o wirfoddolwyr hyfforddedig sy'n rhieni, ac rydym yn cynnig cefnogaeth i filoedd o rieni sy'n cael trafferth wrth ymdopi.

Mae angen cefnogaeth ar deuluoedd am lawer o resymau, gan gynnwys iselder ar ôl geni, salwch rhiant neu blentyn, anabledd, profedigaeth neu unigrwydd cymdeithasol.

Rhieni'n cefnogi rhieni eraill: mae'n syniad hawdd sy'n gweithio'n dda.

Sefydlwyd Home-Start 36 o flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn rydym yn gweithio mewn dros 336 o gymunedau, ac yn cefnogi 71,272 o blant a 33,913 o deuluoedd.

Rydym yn credu'n gryf iawn bod gan rieni gyfraniad allweddol i'w wneud wrth greu amgylchedd hapus a diogel ar gyfer eu plant.

Ond weithiau maent angen ychydig o gymorth - a gall Home-Start gynnig y cymorth hwnnw.

I wybod mwy am Home-Start dewiswch o blith y dolennau canlynol:

Hanes
Ein Gwaith
Angen Cefnogaeth?
Gwirfoddoli



Back to Top