Helpline 0800 068 63 68

Home-Start

supporting families in local
communities across the UK


Ymgynghoriad gyda rhieni a phlant yng Nghymru

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2005 yn Stad y Faenol ger Bangor. Bu Home-Start UK (Staff rhanbarthol, lleol a gwirfoddolwyr) yn siarad ag ymwelwyr â'u stondin am ddau fater pwysig:- Gyda rhieni trafodwyd 'beth sydd wedi newid i chi ers i chi gael plant?' Gofynnwyd i blant 'beth sy'n eich gwneud yn hapus?'

Mae sawl thema gyffredin yn yr ymatebion sy'n dilyn. Roedd mamau yn tueddu i ddweud bod eu bywydau wedi newid yn ddramatig ar ôl cychwyn teulu tra bod llawer o dadau yn teimlo bod eu cyfrifoldebau a'u sefyllfa ariannol wedi newid yn ddramatig o bosib, ond nad oedd eu bywydau o ddydd i ddydd wedi newid rhyw lawer. Dywedodd cenedlaethau o deuluoedd a holwyd bod rôl y nain a'r taid wedi newid dros y blynyddoedd gyda mwy a mwy yn gofalu am eu hwyrion bellach. Roedd rhieni ifanc yn fwy tebygol o fod yn gweithio eu dau tra bod neiniau a theidiau yn gofalu am eu plant oherwydd costau gofal plant uchel. Roedd hyn yn mynd dan groen rhai mamau ac roedd cyplau hefyd yn teimlo bod eu bywyd cymdeithasol yn cael ei rwystro ymhellach gan fod gwarchod, gan nain a thaid yn aml, yn ddyletswydd arall na allant ofyn amdano mwyach. Roedd pawb o'r farn bod cael plant wedi cyfoethogi eu bywydau er bod y cyfrifoldeb yn bwysau mawr ar ysgwyddau llawer.

Crybwyllodd plant chwarae gyda ffrindiau a theulu, yn enwedig Dad. Ni chrybwyllwyd mamau wrth drafod chwarae. Roedd gweithgareddau eraill a oedd yn eu gwneud yn hapus yn cynnwys pethau fel cerddoriaeth, chwaraeon, cymeriadau plant ar y teledu ac anifeiliaid.

Rhestrir y coladiad yn llawn isod. Ni nodwyd a oedd pob ymateb wedi'i nodi fel un gan Fam/ Tad/ Nain/ Taid/ plentyn ac ati.

Mam - Beth sydd wedi newid?

  • Diffyg amser rhydd (x21).
  • Colli rhyddid (8).
  • Colli amser i mi fy hun ond roedd yr amser gyda'm baban yn werth chweil.
  • Gofalu am 24 awr.
  • Ydych chi eisiau rhestr?
  • Mae hi'n cymryd llawer o amser i mi allu gadael y tŷ!
  • Teimladau chwerw o bryd i'w gilydd.
  • Mwy o amynedd (x2).
  • Gwerthfawrogi pethau llai.
  • Trefnu gwyliau'n wahanol (i fod yn addas ar gyfer ein merch).
  • Gwahanol gyfleoedd.
  • Dim digon o oriau yn y dydd!
  • Dim ond amser i'r gwaith, plant a'r cartref.
  • Rhyw.
  • Pwysau gwaith yn rheoli'r amser sydd gen i ar gyfer y plant a faint o amser sydd gen i ar gyfer gweithio.
  • Nain yn darparu gofal plant ac alla i ddim gofyn iddi warchod i mi allu mynd allan hefyd.
  • Ceisio cydbwyso mwy. Parhau i weithio. Heb roi'r gorau i unrhyw beth - alla i ddim peidio â gweithio(x2).
  • Roedd yn rhaid i mi dyfu i fyny'n gyflym iawn ar ôl cael dau faban yn ifanc iawn.
  • Mwy o gyfrifoldeb. Dim amser i wneud pethau arferol fel mynd i'r archfarchnad am 10pm.
  • Rydw i'n fam sengl ac mae'n anodd cael hoe.
  • Gwallt yn britho.
  • Gwasanaeth tacsi personol.
  • Mwy o waith.
  • Mae fy mywyd wedi crebachu!
  • Deiet/Bwyta.
  • Dim heddwch.
  • Maen nhw wedi llenwi fy mywyd.
  • Dimensiwn newydd ar fywyd.
  • Mae pwrpas i'm bywyd - fy mhlant yw'r dyfodol!
  • Llawer mwy o brofiadau.
  • Heb sylweddoli ei bod yn bosib caru rhywun arall gymaint (x2).
  • Mae fy mywyd wedi'i droi ben i waered.
  • 4 o blant - mae bywyd yn brysur a llawn (x3)! Teimlo'n lwcus iawn ac yn mwynhau eu gweld yn tyfu ac yn newid o ddydd i ddydd.
  • Chwerthin mwy.
  • Mwy o broblemau.
  • Rhoi ystyr go iawn i fywyd. Gwaith caled ond cyffrous.
  • Ddim yn gallu mynd allan heb wneud trefniadau (x2).
  • Tensiwn oherwydd nad ydyn ni'n gallu mynd allan fel cwpwl.
  • Angen gwarchodwyr.
  • Llawer o redeg yn ôl ac ymlaen (x2).
  • Dim llawer o amser i mi ond rydw i'n cael amser bendigedig.
  • Mae cydbwyso gwaith a phlant yn straen.
  • Beth oeddwn i'n ei wneud cyn cael plant?!!
  • Popeth (x20)! Beth sydd heb newid?!!
  • Lle mae dechrau? Mae mynd i'r gwaith yn anodd a mynd â'r plant i'r feithrinfa a thalu amdano!
  • Mae pob agwedd ar fy mywyd wedi gwella, yn fwy pleserus. (x8).
  • Wedi mwynhau gymaint ac wedi elwa ar y profiad, ond rydw i'n colli'r rhyddid a bod yn sengl!
  • Dechrau bywyd newydd.
  • Llawer o hwyl (x3). Gwneud pethau newydd.
  • Gwerthoedd teulu yn gryfach.
  • Gwerthfawrogi pethau fwy.
  • Wedi gwneud ffrindiau newydd.
  • Bywyd yn fwy o straen.
  • Agorwyd cist o emosiynau fel trysorau hyfryd newydd xxxxx (mam efeilliaid)
  • Bywyd wedi newid er gwell. Y ddau ohonom yn dal i weithio. Nain a'r ddau Daid yn darparu gofal plant.
  • Wedi tyfu i fyny llawer! Llawer o gyfrifoldeb (x6), ond llawer o hwyl (x2) a methu dychmygu bod hebddyn nhw.
  • Mae fy rôl wedi newid - hwyl fawr i'm hen fywyd.
  • Blaenoriaethau wedi newid (x20). Rhoi'r plant yn gyntaf a mwynhau hynny.
  • Maen nhw'n gorfod cael eu rhoi gyntaf gyda phopeth rydw i'n ei wneud.
  • Mae'n rhaid i chi ddysgu bod yn anhunanol er lles eich plant.
  • Rydw i'n gorfod rhoi'r teulu gyntaf (x4), ond maen nhw werth y byd.
  • Fy mherthynas gyda'm gŵr wedi gwella.
  • Fy mhersbectif ar fywyd wedi newid yn llwyr.
  • Gwahanol weithgareddau.
  • Dim cwsg (x13)! Heb gysgu'r un fath ers eu geni! Byth yn meddwl y baswn i'n gallu cysgu eto!
  • Mae'r diwrnod yn ymddangos yn llawer hirach gyda chwsg!
  • Blinedig iawn!
  • Ddim yn cael cysgu'n hwyr!
  • Gwireddu breuddwyd.
  • Mwy o ystyr i fywyd.
  • Popeth yn canolbwyntio ar y plentyn!
  • Bywyd yn fwy dwys.
  • Angen llawer o bethau ar gyfer y baban.
  • Y plentyn yn cael blaenoriaeth. Anodd meddwl am waith anoddach.
  • Fel plentyn roeddwn i'n arfer aros gartref. Doedd mam ddim yn gyrru. Mae gan blant fywyd cymdeithasol mor brysur bellach ac yn disgwyl cael mynd i wahanol leoedd i chwarae.
  • Bywyd yn brysurach (x2) ac wedi'i gyfoethogi (x2).
  • Meddwl bod bywyd yn llawn cynt, ond mae'n llawer llawnach ar ôl cael plant!
  • Cynllunio ymlaen llaw! Mae mynd i unrhyw le'n cymryd oes.
  • Mae'n rhaid cynllunio popeth (x2)!
  • Sgiliau rheoli amser! Mwy trefnus!
  • Colli annibyniaeth (x2).
  • Pan roedden ni'n byw dramor roedden ni'n deulu cnewyllol heb gymorth. Cefais iselder ar ôl geni ac roeddwn i'n poeni y byddai'r awdurdodau yn cymryd fy mhlentyn oddi arna i pe bai pobl yn dod i wybod. Ar ôl gweld rhaglen deledu ar iselder ar ôl geni, sylweddolais nad oeddwn i ar ben fy hun. Byddai'n well pe bawn i wedi cael fy rhybuddio ymlaen llaw. Ers i ni ddychwelyd i Gymru, mae bywyd yn well. Gall nain a thaid warchod yn awr ac rydyn ni'n gallu mynd allan fel cwpwl. Rydw i'n teimlo'n euog weithiau am fy unigedd/iselder ar ôl genedigaeth fy mab.
  • Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil ond yn llawn heriau. Collais fy hyder a chefais bwl o iselder ar ôl geni, ond mae gen i hunanhyder bellach (drwy wirfoddoli a dychwelyd yn betrus i'r gwaith). Rydw i'n gallu mwynhau bywyd eto ac yn cael pleser mawr o dreulio amser gyda'm merch. Bod yn rhiant yw'r gwaith anoddaf dan haul ac mae pob rhiant angen cymorth a chefnogaeth.
  • Sylweddoli ystyr 'gofid' pan oedd y plant yn sâl. Dydw i ddim yn poeni am bethau bach bellach.
  • Llai o ryddid, y gymuned wedi newid - pan oeddwn i'n byw yn y wlad roeddwn i'n rhydd. Gwahanol ffrindiau. Rhoi'r gorau i weithio (x2).
  • Bywyd cymdeithasol yn troi o amgylch rhieni ffrindiau ein plant (x3).
  • Bywyd cymdeithasol wedi mynd, ond bywyd yn fendigedig ac ni fyddwn i'n ei newid (x2).
  • Bywyd cymdeithasol wedi'i gyfyngu oherwydd diffyg gwarchodwyr. Hefyd am dreulio mwy o amser gyda nhw am eu bod yn tyfu i fyny mor gyflym.
  • Mwynhau gwneud mwy o bethau teuluol. Treulio mwy o amser gyda'r teulu yn hytrach na ffrindiau.
  • Agweddau wedi newid at lawer o bethau e.e. yr amgylchedd.
  • Anodd iawn cael gofal plant rhad.
  • Trefnu gofal plant yn waith caled.
  • Colli dyrchafiad. Anodd dod o hyd i waith eto.
  • Colli hyder.
  • Mynd o waith llawn amser i waith rhan-amser.
  • Newid o oriau gwaith llawn amser i ran-amser sy'n rhoi amser i mi gyda'r plant a'm galluogi i ddilyn gyrfa.
  • Salwch ar ôl geni - sydd wedi datblygu'n iselder. Dydw i ddim yn gallu gweithio o bryd i'w gilydd oherwydd y salwch.
  • Neb yn dweud cyn i chi gael baban beth sy'n mynd i newid.
  • Gallu gweithio. Mae gwasanaethau gofal plant wedi newid ers i mi gael fy mhlentyn cyntaf 21 mlynedd yn ôl.
  • Y rhieni sy'n newid - eu hagwedd.
  • Rhoddais y gorau i weithio a symud yn ôl i Ynys Môn.
  • Costau.
  • Llanast. Ym mhobman!
  • Ddim yn cael gwylio ffilmiau ar y teledu bellach!
  • Deall pa mor bwysig yw'r teulu.
  • Ddim yn ddiogel gadael y plant allan.
  • Amser yn diflannu ddwywaith cyflymach!
  • Popeth yn symud mor gyflym!
  • Disgyblaeth; dim parch, dim bywyd cymdeithasol.
  • Ysgaru!! Newid gyrfa; ennill mwy o incwm heb ddyn!!
  • Meddwl am arian. OND cyfeillgarwch y plant a'u gweld yn datblygu - nhw yw cannwyll fy llygad.
  • Does dim wedi newid - mae'n dibynnu sut rydych chi'n byw eich bywyd.
  • Dw i ddim yn gwybod am mai dim ond 18 oed oeddwn i pan gefais blant.

Tad

  • Nosweithiau digwsg (x4)
  • Fy mywyd a'm byd!
  • Tŷ llawn a llawer o sŵn!
  • Costau (x1)!
  • Llawer llai o arian (x5) a llawer mwy o bleser. Mae'n cyfoethogi bywyd. Mae'n creu cylch newydd o ffrindiau hefyd.
  • Dim arian (x2)!
  • Balans yn y banc (x4).
  • Gwasanaeth tacsi!
  • Amser rhydd yn diflannu, ond yn gymaint o bleser wrth edrych yn ôl.
  • Treulio mwy o amser yn gwneud yr hyn y mae'r plant yn ei wneud e.e. chwaraeon, pêl-droed, nofio ac ati.
  • Mwynhau byw bywyd yn arafach!
  • Rhoi blaenoriaeth i blant - methu ymlacio!
  • Llai o wallt a britho.
  • Cefn drwg! Dim amser i gadw'n heini.
  • Llawer o hwyl. Difaru peidio â chael plant ynghynt.
  • Dim cwrw, dim cwsg, dim amser a llawer o hapusrwydd.
  • Mwy o hapusrwydd, jocan bob munud.
  • Dim llawer (x3). Angen cadw swydd. Ennill bara menyn. Poeni am orfod cael tŷ mwy!
  • Estyniad i'r teulu yw plant - dyna i gyd.
  • Dim rhyw, dim bwyd, dim bywyd, dim cwrw!
  • Arian yn fy mhoced. Prysurach nag erioed. Mwy o redeg o gwmpas!
  • Ddim yn mynd allan cymaint (x3) am beint.
  • Mwy o gyfrifoldeb.
  • Wedi tyfu i fyny. Callach! Roedd ein mab yn sâl ac mae blaenoriaethau'n newid. Mwy o amser mewn ail blentyndod. Chwarae gyda theganau.
  • Hapus ac wedi blino.
  • Disgwyl cael rhywbeth yn ôl.
  • Mwy o amser gydag wyrion a mwy o arian ers ymddeol. Rydw i wrth law i ofalu am y plant. Ni wnaeth y plant amharu ar fy amser i gan i mi barhau i weithio.
  • Addasu fy ffordd o fyw e.e. Tafarn.
  • Mae'n rhaid rheoli llawer o amser i gyd-fynd â'r plentyn.
  • Rhyddid. Dyw pethau ddim yn mynd ddim haws.
  • Newidiodd fy holl fywyd o grwydro tafarndai i osod silffoedd. Di-droi'n-ôl.
  • Dynion - fawr ddim yn newid. Dal i weithio. Fel taid - mwy o amser gyda'r plant.

Nain a Taid

  • Cymaint wedi newid, Arian (x2) - mwy a mwy. Mwy o amser ar gyfer y wyrion a'r wyresau nag ar gyfer fy mhlant (x2).
  • Blaenoriaethau'n newid, rhywun arall yn bwysicach ac mae hyn yn para ar ôl i'r genhedlaeth nesaf ymddangos.
  • Rhoi eraill gyntaf (x3). Llawer o hwyl (x2), ail gyfle i wneud pethau plentynaidd!
  • Prysurach nag erioed!
  • Sioc! Gorfod rhoi'r gorau i weithio. 4 o blant. Dim gofal plant. Mynd yn ôl i weithio. Colli annibyniaeth. Ennill annibyniaeth yn ôl ar ôl 36 mlynedd ar ôl i mi gael fy ngwneud yn weddw.
  • Pe bawn i'n gwybod fod wyrion yn gymaint o fendith byddwn i wedi'u cael ynghynt!
  • Ers i ni gael wyrion mae'n bleser rhannu ein hymddeoliad gyda nhw. Mae'n gwneud i ni deimlo'n llawer iau.
  • Mae'n ymddangos nad oes gan rieni amser ar gyfer plant. Yn rhy brysur yn gweithio.
  • Bod gyda'm hwyrion. Llai o gyfrifoldeb a llawer o hwyl.
  • Fel nain - mwy o amynedd ac amser, gwerthfawrogi plant yn fwy na'r tro cyntaf.
  • Dim amser i mi fy hun. Gweithio'n llawn amser a Nain yn edrych ar ôl fy mhlant. Rydw i'n gofalu am fy wyrion yn awr i gynorthwyo fy merch.
  • Mae fy mywyd wedi'i gyfoethogi.
  • Basged siopa - seddi car baban! Maen nhw (wyrion) yn fendigedig!
  • Sylweddoli bod cenedlaethau'n datblygu a'r cyfrifoldeb enfawr.
  • Mae ein bywydau wedi'u cyfoethogi cymaint ers i ni gael ein hwyres fach.
  • Edrychodd fy rhieni ar ôl fy mhlant gan eu bod yn dweud na ddylwn i wastraffu fy amser yn y coleg ar ôl iddyn nhw dalu.
  • Bod yn blentyn eto.
  • Edrych ar ôl y plant cyn iddyn nhw ddechrau'r ysgol ac yn awr ar ôl yr ysgol.
  • Tad yn troi'n ddyn, Taid yn troi'n blentyn.

Rhieni - beth sy'n eich gwneud yn hapus?

  • Y plant (x5) - maen nhw'n codi calon rhywun!
  • A fy ngŵr: wrth gwrs.
  • Bod gyda'r plant.
  • Bod gyda'r plant pan oedden nhw'n ifanc.
  • Teulu.
  • Gwneud pobl eraill yn hapus.
  • Pan mae'r plant yn hapus (x5).
  • Eu gweld (y plant) yn datblygu (x2).
  • Rhannu brechdan!
  • Cael amser i fi fy hun, os yw'r plant yn hapus, ffrindiau, haul, bod yn yr awyr agored dan y sêr gyda thanllwyth o dân!
  • Amser i ni ein hunain.
  • Pan fo'r plant gyda'u nain!
  • Yr amser sydd genna i gyda'm gŵr a'm ffrindiau.
  • Cael amser i ffwrdd o'r gwaith er mwyn i mi gael bod gyda'm merch.
  • Gwydriad o win ar ôl i'r merched noswylio!
  • Gin a thonic!
  • Noson allan gyda'r merched a bod yn fi fy hun.
  • Mynd allan o'r tŷ yn amlach.
  • Hapusrwydd (x2), cariad (x3), teulu, chwarae teg a chwmni da fy rhieni.
  • Gweld y plant yn mwynhau eu hunain.
  • Rhaglenni teledu.
  • Gweld fy mab yn gwisgo ei helmed beic modur (cael sicrwydd ei fod yn fwy diogel).
  • Amser i ni.

Plentyn

  • Chwarae pêl-droed (x3).
  • Pêl-droed Americanaidd.
  • Nofio (x5).
  • Cerddoriaeth (bachgen 13).
  • Teulu, ffrindiau, fy mrawd bach, y teulu'n dod at ei gilydd (x2) (merch 13).
  • Cacen, Mam, Dad a fy nwy chwaer!
  • Gwneud ffrindiau a chwarae gyda nhw (x11).
  • Pobl gyfeillgar/teg (x2).
  • Eisteddfod
  • Edrych ar y byd!
  • Anwesu fy nghi.
  • Haul (x2).
  • Mynd i barciau thema (x3), hufen ia, chwarae gemau.
  • Chwerthin!
  • Tywod, balŵns (x2), dŵr.
  • X-box, Playstation 2 (x2).
  • Jac y Jwc, Sam Tân, Superted, Sali Mali, Mr Urdd.
  • Spiderman.
  • 'Peachy' yr hamster. Cael mwythau gan Mam a Dad.
  • Siôn Corn.
  • Eisteddfod.
  • Aros am wythnos yn yr Eisteddfod.
  • Gwneud ystumiau!
  • Seiclo gyda Dad ar y 'Tagalong' (sy'n cael ei gysylltu â beic Dad).
  • Barbie a Dad.
  • Dweud jôcs.
  • Gwylio ffilmiau Harry Potter.
  • Seiclo (x2).
  • Anifeiliaid.
  • Mynd ar wyliau.
  • Helpu a gallu helpu eraill a chael hwyl yr un pryd.
  • Chwarae gyda chŵn Nain.
  • Mynd i lefydd.
  • Mynd i weld Dad ar ei stondin yn yr Eisteddfod.
  • Cusanu plant.
  • Chwarae.
  • Chwarae Connect 4 gyda'm brawd.
  • Diolch am deulu.
  • Gwneud lluniau.
  • Llawer o fferins a helpu pensiynwyr i olchi eu ceir a helpu adref a chael hwyl yr un pryd.
Straw poll results in English






Home-Start Welsh Find your own scheme
Volunteer/Gwirfoddoli

O bob punt a dderbyniwn gennych chi:

  • caiff 92c ei gwario ar ein gweithgareddau elusennol

  • mae 7c yn mynd tuag at ymgyrchoedd codi arian pellach

  • caiff 1c ei gwario ar reoli a gweinyddu