Mae angen math arall o wirfoddolwr arnom ni - ymddiriedolwyr. 

Ymddiriedolwyr yw dynion a menywod sy’n helpu i roi arweiniad i ganghennau lleol Home-Start gan lywio eu cyfeiriad a chyfrannu at y gwaith o’u harwain – bydd hynny’n galluogi staff i fwrw mlaen â’u gwaith dydd i ddydd ac yn galluogi gwirfoddolwyr sy’n ymweld â chartrefi i barhau i gefnogi teuluoedd.

Pa fath o bobl yw ymddiriedolwyr Home-Start?

Mae ein hymddiriedolwyr yn amrywio o ran cefndir, a byddant yn rhannu eu profiadau a’u sgiliau personol â’r Home-Start lleol. Mae galw mawr am sgiliau busnes neu reoli personél, cyllid a chodi arian, TG a chyfathrebu. Ond does dim angen cymwysterau arbennig i fod yn ymddiriedolwr – mae synnwyr cyffredin, hyblygrwydd, amser, y gallu i weithio fel rhan o dîm, parodrwydd i ddysgu, dealltwriaeth o’r pwysau sy’n wynebu rhieni heddiw a gwir ddiddordeb yn y gwaith o gefnogi rhieni yn eich cymuned yn llawn mor bwysig i ni.

Beth yw ymddiriedolwr Home-Start?

Gwirfoddolwr yw ymddiriedolwr Home-Start sydd ar fwrdd ymddiriedolwyr Home-Start lleol. Mae pob Home-Start lleol yn elusen annibynnol ac mae bod yn ymddiriedolwr yn ymwneud â llywodraethu’r elusen - cynllunio’r ffordd y bydd yn cyflawni ei amcanion. Dyw’r ymddiriedolwyr ddim yn gyfrifol am weithredu Home-Start o ddydd i ddydd ond maen nhw’n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau ac yn gyfrifol am sicrhau bod yr elusen yn effeithiol, gan ddarparu cyfeiriad cyffredinol a rheolaeth gadarn ar yr ochr ariannol. Mae bod yn ymddiriedolwr yn gallu bod yn waith caled a bydd angen i chi allu ymateb i’r galw. Ond mae hefyd yn waith gwerth chweil, a bydd cyfleoedd di-ri i chi ddatblygu’n bersonol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol. Heb ymddiriedolwyr gwirfoddol, ni allai ein canghennau Home-Start lleol fodoli ac ni fyddai teuluoedd a phlant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Beth mae bwrdd ymddiriedolwyr yn ei wneud?

Gwaith y bwrdd yw sicrhau bod adnoddau’r elusen yn cael eu defnyddio’n effeithiol, fel bod Home-Start yn gwneud yr hyn ddylai ei wneud (cefnogi teuluoedd a phlant). Y Cadeirydd sy’n arwain y bwrdd, ac mae’r ymddiriedolwyr yn gyd-gyfrifol am lywodraethu a chyflogi’r tîm o staff. Mae’r bwrdd yn gweithio gyda staff a chynghorwyr i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen, datblygu gwasanaethau Home-Start, monitro ac adrodd ar ba mor dda y mae’r elusen ei wneud, a chyflwyno’r cyfrifon i’r cyrff rheoleiddio perthnasol. Mae gweithgareddau’r bwrdd yn amrywiol ac yn llawn her, ond yn rhai gwerth chweil. Gan weithio gyda’r staff a gwirfoddolwyr sy’n ymweld â’r cartrefi, mae’r bwrdd ymddiriedolwyr yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau teuluoedd lleol.

Faint o’m hamser fydd hyn yn ei gymryd?

Dylai ymddiriedolwyr Home-Start ddisgwyl treulio o leiaf 8-10 awr y mis ar eu dyletswyddau. Mae’n waith pwysig, sy’n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol, a fydd yn gofyn am amser ac ymrwymiad. Bydd yn rhaid i ymddiriedolwr sydd ag ymrwymiad ychwanegol – fel trysorydd neu gadeirydd efallai – roi mwy o amser i’r gwaith. Ond mae ymddiriedolwyr Home-Start yn cael eu cefnogi bob cam o’r ffordd. Cewch hyfforddiant cynefino trylwyr, eich gwahodd i gyrsiau a digwyddiadau hyfforddi cenedlaethol, cewch ddefnyddio mewnrwyd Home-Start sy’n llawn gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â phob agwedd ar gynnal Home-Start lleol ac elwa ar sgiliau a gwybodaeth staff, eich cyd-ymddiriedolwyr a Home-Start UK – sydd yno i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chanllawiau i ganghennau Home-Start lleol.

Sut fydda i yn elwa?

Mae ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli am eu bod am gymryd rhan yn eu cymuned a gwella bywydau rhieni a phlant. Maen nhw’n elwa trwy ael y boddhad o wybod eu bod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn aml, bydd bod yn ymddiriedolwr yn gwella sgiliau a gwybodaeth unigolyn, yn rhoi hwb i’w hyder ac yn rhoi cyfleoedd di-ben-draw i rywun ddatblygu’n bersonol ar gyfer gwaith cyflog yn y dyfodol. Gall hefyd roi canolbwynt i ymddeoliad gweithgar a’r ymdeimlad bod rhywun yn defnyddio’i amser hamdden er budd eraill.

Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ynglŷn â bod yn ymddiriedolwr (mae manylion cyswllt ar y dudalen gefn). Ni fydd hyn yn eich ymrwymo mewn unrhyw ffordd.

  • Cewch fanylion llawn ar sut i wneud cais os
    penderfynwch chi eich bod am helpu i redeg eich
    Home-Start lleol.
  • Os penderfynwch chi ymuno â ni, bydd angen i chi
    gael gwiriad y swyddfa cofnodion troseddol fel rhan
    o’ch cais.

Beth mae ymddiriedolwyr eraill yn ei ddweud am Home-Start...

Hyd yn oed os ydych chi’n credu na allwch chi gynnig unrhyw beth, fyddwch chi’n synnu faint y gallwch chi gyfrannu fel ymddiriedolwr. Os oes gennych chi ddigon o synnwyr cyffredin a diddordeb yn lles teuluoedd, yna mae rhywbeth y gallwch chi ei wneud. Byddwch chi’n dysgu llawer hefyd.

Jenny, ymddiriedolwr Home-Start Leith Gogleddddwyrain Caeredin

Roeddwn i’n teimlo bod fy mhrofiad a’m sgiliau yn cael eu gwastraffu hyd nes y gofynnwyd i mi ymuno â Home-Start. Nawr, a finnau’n ymddiriedolwr, dwi’n teimlo bod Home-Start a minnau yn elwa.

Graham, ymddiriedolwr Home-Start Canolbarth Suffolk

Mae bod yn ymddiriedolwr Home-Start yn gyffrous, yn gyfeillgar a dyw e byth yn ddiflas! Beth allai fod yn well na theimlo bod yr hyn ydych
chi’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd a phlant? Y cyswllt uniongyrchol yna rhwng fy ymdrechion i a theuluoedd mewn angen sy’n gwneud i mi ddal ati.

Sue, ymddiriedolwr Home-Start Amber Valley

Mae bod yn ymddiriedolwr gyda Home-Start wedi rhoi cyfle i mi barhau i ddefnyddio fy sgiliau busnes a’m profiadau mewn ffordd werthfawr iawn heb aberthu unrhyw bleserau bywyd ar ôl ymddeol.

Mike, ymddiriedolwr Home-Start Stirling

Sut alla i ddysgu mwy am ymuno â Home-Start?

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr neu os am sgwrs gydag aelod o staff yn eich Home-Start lleol gallwch ysylltu â ni:
www.homestart.co.uk/find-your-nearest-home-start i gael ein lleoliadau a’n manylion cyswllt
• ar e-bost ar: [email protected]
• trwy ein ffonio am ddim ar: 0800 068 63 68