Fel rhiant mae'n bosib y byddwch angen cefnogaeth gan Home-Start am amryw o resymau:
- Gallwch deimlo wedi'ch ynysu yn eich cymuned, heb deulu cyfagos ac yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau.
- Gallwch ei chael yn anodd ymdopi oherwydd eich salwch eich hun neu salwch eich plentyn.
- Gallwch fod wedi'ch effeithio'n ddifrifol gan farwolaeth rhywun agos.
- Gallwch ei chael yn anodd ymdopi â'r gofynion emosiynol a chorfforol a ddaw yn sgil dyfodiad gefeilliaid neu dripledi - efallai wedi'u geni i deulu sy'n fawr yn barod.
Mae cymorth ar gael. Rydym yn cefnogi unrhyw deulu sydd angen ein help, cyn belled â bod o leiaf un plentyn dan bump oed yn y teulu.
Ond beth mae 'cefnogaeth' yn ei olygu'n ymarferol? Os gofynnwch am gymorth gan Home-Start rydym yn sicrhau cyfrinachedd llwyr. Mae bron i 25% o deuluoedd yn cymryd y cam cyntaf wrth gysylltu â Home-Start - ffaith sy'n profi nad yw pobl yn teimlo unrhyw gywilydd wrth ofyn am ein help.
Ar ôl gofyn am gymorth gennym byddwch yn cyfarfod ag un o'n trefnwyr lleol a fydd yn dewis un o'n gwirfoddolwyr i weithio gyda chi (dolen i hanesion Gwirfoddolwyr). Mae gan bob un o'n gwirfoddolwyr brofiad o fod yn rhiant, a bydd un ohonynt yn ymweld â chi am ychydig oriau bob wythnos i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol.
I gael gwybod beth mae cefnogaeth Home-Start yn ei olygu'n ymarferol dylech ddarllen ein hadran hanesion teuluol.
Beth yw'r cam nesaf?
- Cysylltwch â ni'n uniongyrchol ar support@home-start.org.uk a byddwn yn anfon eich manylion i'ch Cynllun lleol.
- Cysylltwch â'ch Cynllun lleol yn uniongyrchol - Ffeindio fy Nghynllun lleol
- Ffoniwch ein llinell wybodaeth am ddim ar 0800 068 63 68
- Siaradwch â'ch Meddyg Teulu neu'ch Ymwelydd Iechyd
