Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr byddwch yn gwybod pa mor anodd mae bywyd teuluol yn gallu bod ar brydiau. Ac rydym ninnau'n gwybod hynny hefyd. Mae gan ein gwirfoddolwyr y profiad o fod yn rhieni, a gallant helpu teuluoedd gyda phob mathau o broblemau, o bethau bob dydd i faterion difrifol. Problemau fel:
- Bod yn unig ac wedi'ch ynysu
- Problemau gyda pherthynas
- Ymdopi â magu gefeilliaid/tripledi neu sawl plentyn dan oed ysgol
- Afiechyd, anabledd neu anghenion arbennig
- Rhiant sengl
- Magu plant am y tro cyntaf neu fabanod newydd
- Ymdopi â phrofedigaeth
- Salwch ar ôl geni
- Materion yn ymwneud ag ymddygiad plant
Enghreifftiau'n unig yw'r rhain - i wybod mwy am sut gall gwirfoddolwyr Home-Start helpu'ch teulu chi, edrychwch ar rai o'r Hanesion Teuluol ar y wefan hon neu darllenwch sylwadau'n cefnogwyr enwog.
Ond beth am y materion ymarferol? Fel arfer bydd ein gwirfoddolwyr yn ymweld â rhiant yn y cartref unwaith yr wythnos am ychydig oriau. Anghenion y teulu sy'n pennu union natur yr help a roddir. Gall rhai pobl fod angen rhywun i wrando arnynt, rhywun i'w cysuro neu hyd yn oed rywun i godi'u calonnau wrth drafod pa mor anodd mae bywyd yn gallu bod. Yn aml iawn mae sylw personol o'r fath yn gallu sicrhau rhieni bod pobl eraill wedi cael profiadau tebyg, ac nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Gall ein gwirfoddolwyr ni gynnig cymorth wrth helpu pobl i ymdopi â sefyllfaoedd bob dydd wrth fagu plant, neu gallant roi help ymarferol fel chwarae neu ddarllen storïau.
Pa fath o bobl sy'n gwirfoddoli? Pobl fel chi - pobl gyffredin sy'n deall pa mor anodd mae pethau'n gallu bod wrth fagu plant ifanc.
Mae gan bob un o'n gwirfoddolwyr brofiad o fod yn rhieni - mae rhai'n ifanc, rhai'n hŷn, ac maent yn dod o gefndiroedd amrywiol. Mae rhai wedi derbyn help gan Home-Start yn y gorffennol.
Yr
unig 'gymhwyster' go iawn sydd ei angen arnoch i fod yn wirfoddolwr Home-Start
yw profiad o fagu plant. Dylech fod yn unigolyn cyfeillgar, caredig ac
ymarferol. Ni fyddwch yn barnu pobl; byddwch yn eu derbyn fel y maent ac yna'n
eu cefnogi wrth iddynt geisio rhoi'r cychwyn gorau posib i'w plant. Byddwch yn mynychu un o'n cyrsiau paratoi i
dderbyn hyfforddiant llawn cyn dechrau gweithio gyda theulu a fydd yn gallu
manteisio'n llawn ar eich profiadau a'ch sgiliau.
Allwch chi helpu?
Os hoffech fod yn wirfoddolwr:
- Cysylltwch â'ch Cynllun lleol
- Ebostiwch volunteering@home-start.org.uk neu
- Ffoniwch ein llinell wybodaeth am ddim ar 0800 068 63 68
