Ein Gwaith
Mae cefnogaeth anffurfiol a chyfeillgar Home-Start i deuluoedd â phlant ifanc yn cynnig cymorth gwerthfawr i filoedd o rieni a phlant mewn dros 340 o gymunedau ledled y DU ac i deuluoedd y lluoedd arfog yn yr Almaen a Chyprus.
Mae'n cefnogaeth am ddim, yn gyfrinachol ac nid ydym yn barnu. Mae tua 25% o deuluoedd yn cymryd y cam cyntaf wrth gysylltu â Home-Start - ffaith sy'n siarad cyfrolau am ein gwaith.
Rydym yn helpu i wella hyder ac annibyniaeth teuluoedd trwy:
- Ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain i gynnig cefnogaeth,
- cyfeillgarwch a chymorth ymarferol
- Sicrhau rhieni nad yw eu problemau gofal plant yn anarferol neu'n unigryw
- Hyrwyddo cryfderau a lles emosiynol rhieni er budd eu plant
- Ceisio ail-gyflwyno elfen o hwyl i'r bywyd teuluol
Mae gan ein gwirfoddolwyr brofiad o fod yn rhieni, a gallant gynnig:
- Amser gwerthfawr i siarad a gwrando
- Help gyda'r plant
- Amser i rieni heb y plant
- Help ymarferol a thawelwch meddwl
- Cyfle i gyfarfod â rhieni eraill sydd yn yr un sefyllfa
- Cymorth i allu defnyddio gwasanaethau ac adnoddau lleol
Mae rhieni yn gofyn am help Home-Start am bob math o resymau -
- Gallant deimlo wedi eu hynysu yn eu cymuned, heb deulu cyfagos ac yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau
- Gallant ei chael yn anodd ymdopi oherwydd eu salwch corfforol neu feddyliol eu hunain, neu oherwydd salwch corfforol neu feddyliol plentyn
- Gallant fod wedi'u heffeithio'n ddifrifol gan farwolaeth rhywun agos
- Gallant ei chael yn anodd ymdopi â'r gofynion emosiynol a chorfforol a ddaw yn sgil dyfodiad gefeilliaid neu dripledi - efallai wedi'u geni i deulu sy'n fawr yn barod
Gwirfoddoli

