Mae llu o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael gyda Home-Start, ac mae modd gweithio'n uniongyrchol â theuluoedd neu gefnogi'r sawl sy'n gwneud hynny.
Gwirfoddolwyr sy'n ymweld â chartrefi sydd wrth galon ein helusen.
Mae gennym tua 15,600 o wirfoddolwyr, yn ddynion ac yn fenywod, sy'n ymweld â rhieni yn eu cartrefi i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol. Rhaid i'r gwirfoddolwyr hynny feddu ar brofiad fel rhieni ac maent yn derbyn hyfforddiant llawn cyn eu bod yn cynnig cymorth i deuluoedd.
Ar ben hynny mae gennym tua 2,400 o wirfoddolwyr eraill sy'n helpu i redeg ein Cynlluniau Home-Start Lleol, a bydd ganddynt amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys:
- sgiliau rheoli busnes
- arbenigedd ariannol a chyfreithiol
- gwybodaeth TG
- profiad adnoddau dynol
- sgiliau ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau
Gelwir y gwirfoddolwyr sy'n rheoli Cynlluniau Home-Start yn Ymddiriedolwyr, ac maent hwythau hefyd yn derbyn hyfforddiant arbennig er mwyn gwneud eu gwaith.
Mae gwirfoddoli i Home-Start yn cynnig boddhad mawr i'r unigolyn, ac mae profiadau gwirfoddolwyr eraill yn cadarnhau hynny. Gallwch ddewis o'r ddewislen ar y dde er mwyn darllen am brofiadau personol rhai o'n gwirfoddolwyr.
Allwch chi helpu?
Os hoffech fod yn wirfoddolwr:
- Cysylltwch â'ch Cynllun lleol
- Ebostiwch volunteering@home-start.org.uk neu
- Ffoniwch ein llinell wybodaeth am ddim ar 0800 068 63 68
