Kay Mellor
Fel rhywun a fu'n gyfrifol am raglenni teledu poblogaidd fel Band of Gold a Fat Friends, mae'n amlwg bod Kay yn teimlo'n gryf am faterion cymdeithasol. Ac mae hi'n teimlo'r un mor gryf am Home-Start."Dwi'n cefnogi Home-Start oherwydd ei bod yn elusen wych - heb ei hail. Gallwch drio helpu pobl mewn sawl ffordd - trwy roi arian, pram neu rywbeth materol iddyn nhw, ond pobl eraill y maen nhw eu hangen mewn gwirionedd.
"Mae Home-Start yn gwneud hyn mewn ffordd naturiol a diffuant, ac nid dan faner 'cynghori'. Dyna sy'n dda am yr elusen. Mae'r ffaith bod rhieni yn helpu rhieni eraill yn bwysig iawn oherwydd mae'n bosib rhannu profiadau wedyn. Os oes gennych broblem gallwch ei thrafod gyda rhywun sydd wedi cael yr un profiad a dydych chi ddim yn teimlo'n lletchwith."
Kay yw noddwraig Home-Start yn Leeds a hi oedd ein 'llais' mewn apêl elusennol genedlaethol ar Radio 4. Ond pam ei bod yn teimlo bod ganddi gysylltiad mor agos â ni? Ei phrofiadau pan oedd hi'n berson ifanc yn ei harddegau sydd â'r ateb.
"A dweud y gwir rôn i'n ffodus iawn oherwydd pan wnes i feichiogi yn 16 oed roedd gen i deulu agos i'm helpu. Rôn i a'm partner yn caru'n gilydd ac fe wnaethom briodi. Ond gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn. Gallwn fod wedi bod yn unig ac yn ofnus ac angen help gan elusen fel Home-Start.
"Ar ôl i mi roi genedigaeth i fy merch, Yvonne, dioddefais iselder ar ôl geni, er dwi ddim yn meddwl bod gan y cyflwr hwnnw enw ar y pryd. Doedd neb yn siarad amdano a byddai wedi bod yn wych i allu rhannu fy mhrofiadau gyda rhywun oedd yn deall."
Jennifer Ellison
Cymerodd Jennifer ran yn y gyfres Hell's Kitchen, a llwyddodd i aros tan y diwedd. Bu Home-Start Knowsley ar ei ennill wedyn wrth i Jennifer roi ei holl enillion o sioe deledu lwyddiannus Gordon Ramsey i'r cynllun lleol.
Fel trefnydd Home-Start, mae'n rhaid bod Jane, mam Jennifer, yn ddylanwad arni, ond doedd dim angen llawer o berswâd ar Jen i ddewis y cynllun.
"Mae aelod o'r teulu wedi cael canser, felly roedd Jennifer wedi ystyried elusen canser genedlaethol ac ysbyty adnabyddus," meddai Jane, "ond ar ôl clywed amdanon ni roedd hi'n hollol argyhoeddedig o bwysigrwydd ein gwaith yn cefnogi plant a rhieni."
Mae Jacqui McElhinney, Rheolwraig Home-Start Knowsley, wrth ei bodd bod mam Jennifer wedi dylanwadu arni.
"Rydym wrth ein bodd bod Jennifer wedi ein dewis fel ei helusen. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am roi cymaint o hwb i ni."
Oliver James
Mae Oliver James yn seicolegydd clinigol, a gofynnir iddo fynegi ei farn arbenigol yn rheolaidd mewn llyfrau, ar y teledu ac yn y wasg genedlaethol. Ond yn ei farn ef, mae arbenigedd yn ail go sâl i'r math o rinweddau y mae e'n eu gweld ymysg pobl Home-Start.
"Yn fy marn i, y rhwystr mwyaf i rieni mewn gwledydd datblygedig yw'r awydd i sicrhau twf economaidd, a hynny ar unrhyw gyfri'. Eto, yn ôl y dystiolaeth, unwaith mae teulu yn ennill digon i fodloni'r anghenion materol sylfaenol (tua £15,000 y flwyddyn), 'dyw faint o arian ychwanegol sydd ganddyn nhw ddim yn gwneud gwahaniaeth i lefelau'u hapusrwydd na'u hiechyd meddwl. Yr hyn sy'n bwysig yw'r berthynas a fu rhyngoch chi a'ch rhieni yn y blynyddoedd cynnar.
"Dwi wir yn meddwl mai'r her fwyaf sy'n ein hwynebu heddiw yw dyfeisio system etholiadol sy'n ethol y math o bobl sy'n gyfrifol am Gynlluniau Home-Start. Meddyliwch ba fath o fyd fyddai gennym ni pe bai'n cael ei reoli gan bobl sy'n deall y pwysigrwydd o ddiwallu anghenion plant.
"Mae'r seicdreiddydd Donald Winnicott wedi dadlau mai cyfran fach o bobl, efallai cyn lleied â 10%, sy'n cadw'r gweddill ohonom ni'n gall. Anaml iawn y mae'r bobl hyn yn gyfoethog, yn enwog neu'n bwysig. Y cwbl maen nhw'n ei wneud yw bwrw ymlaen â'r gwaith o osod esiampl dda. Nhw yw'r bobl brin iawn sydd fel pe baen nhw'n dweud ac yn gwneud pethau call yn syth, ac yn rhoi'u syniadau ar waith. Mae gwneud y pethau hynny'n rhoi boddhad iddyn nhw, ac wrth ddod i gysylltiad â nhw, rydym ninnau'n byw'n bywydau'n well.
"Fe hoffwn i honni fy mod i'n berson o'r fath, ond dwi erioed wedi dod i gysylltiad â sefydliad sydd â chymaint ohonyn nhw â Home-Start. Mae gwaith y cynllun yn bwysig o ran rhoi help i rieni, ond yn bwysicach na hynny, mae llawer o'i aelodau'n enghreifftiau gwych i'r gweddill ohonom."
Lindsay Nicholson
Golygydd Good Housekeeping yw Lindsay, a bu farw ei gŵr ac un o'i merched o'r un clefyd gwaed. Roedd y digalondid a'r anobaith a ddilynodd y marwolaethau bron yn drech na hi. Ond ymladd yn ôl a wnaeth hi, ac ar ôl ail-adeiladu'i bywyd penderfynodd ymuno â Home-Start.
"Mae bywyd wedi dysgu un peth sylfaenol i mi, sef bod pethau'n gallu newid ar amrantiad. 'Dyw arian, statws neu yrfa lewyrchus ddim yn eich amddiffyn rhag ergydion salwch a marwolaeth. Ac i'r gwrthwyneb, gall cariad, llawenydd a lwc dda fod yn drech na thrychinebau erchyll, er does dim modd anghofio'r profiadau drwg yn llwyr.
"Fe ddes i'n ymddiriedolwraig i Home-Start am y rheswm syml y byddwn i wedi hoffi cael cefnogaeth gan wirfoddolwr yn ystod adegau ofnadwy fy mywyd i. Ac er i mi ddod trwy'r cyfan, dwi hefyd yn sylweddoli y gallai pethau fod wedi mynd yn drech na fi. Dwi ddim eisiau gweld neb arall yn yr un sefyllfa yn gorfod ymdopi heb help.
"Os gawn ni'r help priodol ar yr amser iawn, dwi'n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni'n gallu ymdopi â bron unrhywbeth, ac os yw hynny'n digwydd, gallwn edrych ymlaen tua'r dyfodol gyda hyder."
