Helpline 0800 068 63 68
Childhood Starts Now

Hanesion Ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr ar bwyllgor rheoli’r cynllun sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun ac am sicrhau ei fod yn gweithredu yn unol â’i gyfansoddiad a’r Cytundeb Home-Start. Mae Home-Start yn cyflogi ac yn goruchwylio trefnydd/cydgysylltydd sy’n gweinyddu’r cynllun ac yn goruchwylio ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.


Bu Emily'n defnyddio ei sgiliau TG i helpu teuluoedd yn Southwark

"Rwyf wedi gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus elusennau ers pan oeddwn yn 16 oed, hynny ar ôl gadael yr ysgol yn gynnar oherwydd salwch. Fe wnes i gychwyn gweithio i'r Gymdeithas Pobl Ifanc sydd ag M.E., ac yn ystod y pum mlynedd a dreuliais yno, bues i'n brwydro i ennill hawliau i blant sydd â'r salwch anablu hwn - gan weithio i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sy'n byw gydag M.E. ac yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd i oresgyn eu sefyllfa gorfforol a dod yn rhan o'r gymuned.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw dysgais lawer am y problemau bob dydd sy'n wynebu teuluoedd a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnom i gyd ar brydiau. Ar ôl i un o'm cymdogion ddweud wrthyf am Home-Start, ac ar ôl i mi gyfarfod Sherry, Rheolwraig y Cynllun, rôn i'n gwybod yn syth fy mod am weithio i'r elusen.

"Dwi wedi caru plant erioed. Fi yw "Modryb Emily" i ferch fy chwaer a dau o blant fy ffrind gorau. Dwi wrth fy modd yn clywed am eu hanturiaethau - er mor ifanc, maen nhw'n gallu bod yn ddrygionus iawn ar brydiau! Weithiau dwi ddim yn gwybod sut mae eu mamau'n ymdopi. Dwi wedi cael boddhad mawr o fod yn gefn i'm ffrind ers iddi ddod yn fam, ac o geisio ei helpu i ymateb i'r her o fagu plant. Dwi hefyd wedi mwynhau gwylio'r plant bach yn tyfu. Mae'r holl brofiad wedi dangos i mi un o'r rhesymau pam fod Home-Start mor llwyddiannus: mae gwerth ein gwaith yn amlwg i'n gwirfoddolwyr yn ogystal â'n teuluoedd. Oherwydd fy anabledd, dwi'n gweithio gartref drwy'r amser, gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a'r ffôn. Mae Rheolwraig a Chydlynwyr y Cynllun yn barod iawn i ddod i'm cartref i gynnal cyfarfodydd gyda mi. Byddai'n amhosib i mi wneud fy ngwaith heb gefnogaeth o'r fath, a dwi wir yn mwynhau bod yn rhan o sefydliad teuluol sy'n gyfeillgar iawn."

Richard - 'swydd bob dydd' yn helpu Home-Start yn Efrog

"Fe glywais am waith rhagorol Home-Start yn y lle cyntaf gan ffrindiau sydd wedi bod yn ymwelwyr cartref," meddai Richard Baldwin. "Fel rhywun sy'n gweithio'n llawn amser, doedd hi ddim yn hawdd i mi wneud gwaith o'r fath, ond fe welais i hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am Gadeirydd i Home-Start Efrog.

"Mae llai na blwyddyn ers i mi ddechrau'r gwaith, ond dwi'n mwynhau cydweithio gyda'r staff rhagorol - Celia, Gail a Hilary - a chyda'r gwirfoddolwyr.

"Mae'r ffaith fy mod yn ennill fy mywoliaeth fel Pennaeth Gwirfoddoli Cronfa Ganser Macmilan wedi fy helpu i ddeall cymhellion gwirfoddolwyr a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Dwi'n gyfrifol am tua 70,000 o wirfoddolwyr sy'n cyflawni dros 100 gwahanol fath o dasgau. Weithiau mae syniadau pobl ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud fel gwirfoddolwyr yn gul iawn, felly mae'n bwysig ystyried amrywiaeth eang o gyfraniadau posib.

"Cyn belled ag y mae Home-Start yn y cwestiwn, rydym yn tueddu i recriwtio gwirfoddolwyr i ymweld â chartrefi ac i wneud gwaith codi arian achlysurol. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o gyfleoedd eraill ar gael i wirfoddolwyr, yn cynnwys gwaith gweinyddol, y gwaith o drefnu apwyntiadau gyda theuluoedd a darpar wirfoddolwyr, mynd â theuluoedd allan am y diwrnod, gyrru, rhoi cyngor ar fudd-daliadau, trefnu cyhoeddusrwydd, a chyflawni gwaith ym meysydd iechyd a diogelwch ac adnoddau dynol. Byddwn i'n cynghori pobl sy'n ymwneud â'r cynlluniau, a darpar wirfoddolwyr, i ddefnyddio'u dychymyg ac i beidio â bod ofn mentro. Mae pawb yn elwa yn y pen draw - boed yn wirfoddolwyr neu'n deuluoedd sy'n derbyn cymorth."

Kate - orielau celf ym Mrwsel, Gardd Monet yng Ngiverny...a Home-Start Telford a Wrekin

"Ar ôl i mi ymddeol yn gynnar fel athrawes, rôn i'n meddwl y byddwn i wrth fy modd yn ailaddurno'r tŷ, yn gosod trefn ar yr ardd ac yna'n cael y cyfle i ymweld â'r holl lefydd a fu o ddiddordeb i mi erioed, fel gardd Monet yng Ngiverny ac orielau celf Llundain, Lerpwl, Paris a Brwsel," meddai Kate Bevan. "Fe lwyddais i wneud yr holl bethau hynny a'u mwynhau, ond rôn i'n dal i deimlo bod angen i mi wneud rhywbeth arall a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

"Roedd fy ngyrfa fel athrawes yn amrywiol iawn, a bues i'n gweithio gyda phlant mewn ysgolion a chyda myfyrwyr mewn coleg a phrifysgol. Wrth gysylltu â REACH, sef y sefydliad sy'n helpu pobl sydd wedi ymddeol i gael hyd i waith gwirfoddol, penderfynais y byddwn yn hoffi trio rhywbeth ychydig yn wahanol.

"Roedd pwyslais Home-Start ar gefnogi teuluoedd a phlant ar lefel unigol yn apelio'n fawr. Fe ymunais â'r pwyllgor rheoli ym 1999, ac fe ges i foddhad mawr o fod yn aelod o dîm oedd yn cyfrannu gymaint at les rhieni a phlant. Dwi wedi bod yn is-gadeirydd Cynllun Telford a Wrekin, ac ar hyn o bryd fi yw cadeirydd y Cynllun. Mae'r diwrnodau hyfforddiant sydd ar gael i aelodau pwyllgorau wedi cynnig y cyfle i mi ddysgu am waith pwyllgorau, yn arbennig ym meysydd codi arian, datblygu polisïau a gweithio fel rhan o bartneriaeth.

"Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau ers dod yn rhan o Home-Start, a dwi'n gwerthfawrogi'r ymrwymiad cyffredinol sydd gan bawb i bwysigrwydd blynyddoedd cynnar. Mae Home-Start yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi pawb ac sy'n galluogi pobl i ganfod eu talentau cudd."

Barry - yn manteisio ar 30 blynedd o brofiad

"Wrth i mi nesáu at oedran ymddeol fe wnes i ddechrau chwilio am gyfle i helpu sefydliad gwirfoddol," meddai Barry Newland. "Pan oeddwn yn ifanc es ar gyfnod o Wasanaeth Gwirfoddol Tramor ac rôn i wedi bod yn weithiwr ieuenctid gwirfoddol, ond bellach rôn i'n chwilio am rywbeth a fyddai'n fy ngalluogi i ddefnyddio'r profiadau busnes a bywyd a oedd wedi dod i'm rhan tros gyfnod o fwy na 30 mlynedd.

"Roedd REACH yn gallu cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd trwy gymharu fy sgiliau, fy mhrofiad a'm gobeithion â manylebau swyddi amryw o sefydliadau gwirfoddol. Un o'r rhain oedd Home-Start Gogledd-Ddwyrain Swydd Caerwrangon. Fel rhywun a oedd wedi ystyried ei hun yn rhiant "cyffredin" ac a oedd wedi dilyn gyrfa ym myd busnes (er gwaethaf cael fy nisgrifio fel "gweithiwr cymdeithasol" yn ôl proffilio personoliaeth yn gynnar yn fy mywyd gwaith), doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gallu cyfrannu llawer at waith o'r fath.

"Fodd bynnag, fe gefais fy argyhoeddi fel arall gan dair menyw. Mae Rachel, fy merch, yn Weithwraig Gymdeithasol â phrofiad o helpu plant ifanc sydd wedi cael eu cam-drin. Roedd hi'n credu bod Home-Start yn wych, ond roedd hi hefyd o'r farn y byddai'r elusen yn gallu elwa ar fy mhrofiad rheoli. Margaret Toole a Jean Watson oedd y ddwy fenyw arall. Mae Margaret wedi ymddeol fel arolygydd gyda'r Heddlu - hi yw cadeirydd Home-Start Gogledd-Ddwyrain Swydd Caerwrangon, a Jean yw'r cydgysylltydd. Ar ôl fy nghyfweliad cyntaf, doedden nhw ddim yn fodlon gadael i mi ddianc nes i mi addo y byddwn yn mynychu o leiaf un cyfarfod o'r Pwyllgor Rheoli fel ymwelydd.

"Digwyddodd hynny tua dwy flynedd a hanner yn ôl a dydyn nhw ddim wedi gadael i mi ddianc eto! Ond rhaid dweud fy mod yn mwynhau bod yn rhan o Home-Start. Mae'n sefydliad gwych sy'n llawn pobl ardderchog, ac ar lefel bersonol dwi'n dal i ddysgu am y ffordd orau i mi gyfrannu at waith yr elusen."

Back to Top