Helpline 0800 068 63 68
Photo Home-Start Logo

Hanesion Gwirfoddolwyr


Paul

Mae Paul Nolan yn dad i bedwar o blant, ac yn dilyn marwolaeth drasig ei fam mewn tân yn y tŷ, cafodd ei ysbrydoli i wirfoddoli gyda Home-Start.

"Roedd fel pe bai rhywun wedi agor fy llygaid," meddai Paul. "Fe wnes i benderfynu mai dim ond un bywyd sydd gan rywun, ac rôn i am wella fy mywyd fy hun trwy helpu i wella bywydau pobl eraill."

Felly yn lle 'gweithio mwy o oriau nag sydd mewn wythnos' fel rheolwr rhanbarthol i gadwyn o dafarndai, newidiodd Paul i fod yn ofalwr iechyd a chymdeithasol cymwysedig - ac yn wirfoddolwr Home-Start.

"Fe ges i fy nenu at Home-Start am fy mod yn caru plant a dwi am weithio gyda theuluoedd, ond rôn i hefyd yn gwybod y byddai'n fy helpu i wireddu fy uchelgais o fod yn weithiwr cymdeithasol. Roedd y cwrs hyfforddi 10-wythnos yn wych ac roedd y ffaith bod Home-Start yn sefydliad cenedlaethol yn apelio ata' i oherwydd rôn i'n gwybod y byddai'n cynnig profiad gwerthfawr i mi."

Os yw newid gyrfa Paul yn stori o lwyddiant, felly hefyd y mae ei waith gyda Home-Start yn rhoi help i Nikki, mam sengl ifanc i Jake.

"Roedd Nikki wedi gwahanu oddi wrth dad y baban, roedd hi'n unig a doedd ganddi hi ddim cyfle i drafod ei phroblemau. Wrth siarad gyda hi am y tro cyntaf, roedd hi'n amlwg bod ganddi ddiffyg hyder a barn negyddol amdani hi ei hun.

"Erbyn hyn mae ein cyfarfodydd wedi newid. Rôn i'n arfer â chynnig cyngor a chymorth i Nikki, ond bellach byddwn ni'n trafod yr holl bethau da sydd wedi digwydd iddi hi. Mae Nikki wedi gwella'i pherthynas gyda'i theulu ac mae ganddi swydd, ffrindiau newydd a bywyd cymdeithasol iach.

"Bu cefnogi Nikki'n ddiddorol iawn ac yn bleserus. Dwi wedi'i gwylio hi'n newid o fod yn berson ifanc swil oedd heb lawer o hunan-barch i fod yn fenyw ifanc hyderus, siaradus sy'n edrych ymlaen at y dyfodol gyda'i mab."

Shashi ac Amrit

Cyfathrebu, dealltwriaeth a chynhwysedd. Geiriau da bob un, yn cyfleu delfrydau uchel. Maent hefyd yn rhan hanfodol o fywyd Shashi ac Amrit Mistry fel gwirfoddolwyr Home-Start.

Cyfarfu'r pâr mewn parti i bobl fyddar Asiaidd, ac fel rhieni i ddau fab roeddynt yn gymwys iawn i fod yn wirfoddolwyr Home-Start.

Ond nid oedd pethau mor hawdd â hynny, fel y mae Teresa Roe, trefnydd cynllun Home-Start Walsall yn cyfaddef.

"A bod yn hollol onest, rhaid i mi ddweud y byddai wedi bod yn haws i wrthod cais Shashi am le ar ein Cwrs Paratoi. I ddechrau roedd rhaid i mi ddod o hyd i gyfieithydd iaith arwyddion, roedd rhaid teilwra'r cwrs yn wahanol ac roedd rhaid i ni ystyried yr effaith ar wirfoddolwyr eraill. Roedd angen llawer o amser ac ymdrech i addasu'r cwrs iddo."

I Shashi, y ffaith ei fod yn fyddar oedd y lleiaf o'i broblemau.

"Pan gerddais i mewn i'r ystafell," meddai, "Fi oedd yr unig ddyn ymysg 16 menyw. Roedd hynny'n fy mhoeni'n fwy."

Doedd dim angen i Shashi boeni, fel yr eglura Teresa.

"Ar ôl yr embaras cychwynnol o 'sut allwn ni siarad gydag e', roedd y gwirfoddolwyr eraill wrth eu bodd gydag e. Roedd e'n aelod poblogaidd a gwerthfawr o'r cwrs."

Ac roedd y cwrs ei hun yn werthfawr i Shashi.

"Pan gychwynnais y cwrs rôn i'n isel iawn ac yn cael trafferth canfod gwaith ar ôl colli fy swydd. Rwy'n teimlo'n wych erbyn hyn. Mae fy hyder wedi dychwelyd, dwi wedi sylweddoli y galla' i ymdopi ac mae gen i ffrindiau da newydd."

A beth am Amrit? Cafodd profiad positif Shashi gyda Home-Start gymaint o ddylanwad arni nes iddi hi benderfynu gwirfoddoli hefyd.

Erbyn hyn mae Shashi yn ôl yn y gwaith ac mae Amrit yn helpu i redeg grŵp i deuluoedd bob wythnos fel rhan o'r cynllun yn Walsall - mae'r cyfan yn fuddugoliaeth i gyfathrebu, dealltwriaeth a chynhwysedd.

Rhona

Ar ôl cychwyn fel gwirfoddolwraig, mae Rhona Kelly wedi manteisio i'r eithaf ar gynllun Home-Start, ac mae hi bellach yn aelod o'r staff. "Yn fy marn i," meddai, "Dyma'r swydd orau yn y byd!"

Fel cyn-weithwraig mewn cartref plant, mae hi'n gwybod yn iawn pa mor anodd yw'r swydd.

"Unwaith mae plant yn rhan o'r system ofal mae'n niweidiol iawn ac yn anodd iddyn nhw ddod allan o'r system. Fe glywais am Home-Start ac fe hoffais y syniad yn syth. Rôn i'n hoffi'r syniad o weithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain. Fe deimlais y byddai helpu rhieni pan oedd eu plant yn ifanc yn effeithiol iawn, yn lle aros nes bod y problemau difrifol yn cychwyn."

Ar ôl i'w thrydydd plentyn gychwyn yn yr ysgol, mentrodd Rhona wirfoddoli gyda Home-Start.

"Dwi'n cofio fy niwrnod cyntaf gyda fy nheulu cyntaf yn dda iawn. Roedd y fam yn 27 oed ac roedd ganddi bump o blant - naw mlwydd oed, pum mlwydd oed, gefeilliaid dwy flwydd oed a baban chwe mis oed. Roedd ganddi ormod i'w wneud ac roedd hi'n dioddef iselder am y tro cyntaf erioed - a oedd yn sioc fawr iddi hi ar ôl rhoi genedigaeth i bedwar o blant heb broblemau eraill.

"Pan wnes i ei chyfarfod am y tro cyntaf roedd hi'n gorwedd ar y soffa. Roedd y baban yn chwe mis oed ond doedd e ddim wedi cael prawf ar ôl geni nac unrhyw bigiadau - roedd cyrraedd y feddygfa yn ormod iddi. Fe ddaethom yn ffrindiau'n syth ac rôn i'n gallu rhoi cymorth iddi wrth iddi gael ei thraed dani.

"Mam ifanc oedd ag anawsterau dysgu oedd fy ail deulu. Fe gymerodd rai wythnosau i mi wybod sut i ymateb i'r sefyllfa, ond penderfynais ddechrau o'r cychwyn cyntaf oherwydd bod angen llawer o gefnogaeth arni hi."

Mae 'swydd orau yn y byd' Rhona wedi'i hargyhoeddi bod cynnig cymorth yn y cartref yn hynod werthfawr.

"Mae Home-Start yn gynllun gwych o ran bod yn gefn cyfeillgar i oedolion, ond mae hefyd yn cael effaith dda ar y plant.

"Wrth edrych yn ôl, dwi wir yn credu na fyddai llawer o'r plant y gwnes i eu cyfarfod mewn cartrefi plant wedi bod yno pe bai Home-Start wedi bod yn rhan o'u bywydau."

Back to Top