Helpline 0800 068 63 68
Photo Home-Start Logo

Hanesion Teuluol


Glenda

Pan roddodd Glenda enedigaeth i dripledi ar ôl bod yn yr ysbyty am 10 wythnos roedd hi'n hapus iawn i gyrraedd adref gyda'i phlant. Ond pan ddychwelodd ei gŵr i'r gwaith...

"Roeddwn yn wynebu tri babi a phob un eisiau bwyd! Roedd fy mywyd yn hynod brysur a doedd dim gwahaniaeth rhwng dydd a nos. Doedd gen i ddim amser i mi fy hun. Roedd y babanod yn bwydo'n eitha' aml ac yn araf iawn, un ar ôl y llall, felly roeddwn yn bwydo rownd y ril.

"Roedd y cyfan mor anodd, a wnes i erioed feddwl y byddai'n mynd â chymaint o fy amser. Cyn bo hir rôn i wedi blino'n llwyr ac yn eitha' sâl. Wnes i ddim teimlo'n ddigalon, ond rôn i'n teimlo fel rhedeg i ffwrdd.

"Mis ar ôl i mi gysylltu â Home-Start, daethon nhw o hyd i wirfoddolwr i mi. Cychwynnodd Janice yr wythnos ganlynol. Ar ôl iddi hi gyrraedd fe wnes i ei chofleidio, a rhoddais faban iddi'i fwydo. Fe wnaethom ni ddechrau sgwrsio a bwydo babanod. 'Dwi wedi gwneud ffrind arbennig iawn - nid gwirfoddolwr yw Janice i mi...mae hi'n ffrind.

"Tra ei bod yno, fe wnaeth Janice roi'r cyfle i mi wneud y pethau rôn i'n mwynhau'u gwneud. Yn aml iawn byddwn i'n cael bath neu'n mynd i'r ystafell wely i ymlacio a gwrando ar gerddoriaeth ysgafn.

"Mae pethau'n haws o lawer yn awr ac mae Janice wedi fy nysgu i ymlacio a mwynhau bywyd."

Pauline

Roedd bywyd Pauline ar chwâl ar ôl i'w gŵr gael ei ladd gan rywun a fu'n yfed a gyrru, a bu'n rhaid iddi ofalu am dri o blant ifanc ar ei phen ei hun wrth geisio ymdopi â theimladau o iselder ysbryd, sioc, ac anghrediniaeth.

Wedyn cyrhaeddodd Joy, gwirfoddolwraig Home-Start.

"Roedd gennym ni lawer o bethau'n gyffredin. Fel gwraig weddw ei hun, roedd hi'n gallu cydymdeimlo gyda'r hyn oedd yn digwydd i mi o safbwynt fy nheimladau a'r meddyliau gwallgof oedd yn llenwi fy mhen ar brydiau. Roedd hi'n gallu fy nghysuro trwy ddweud bod y meddyliau'n rhan o'r broses wella. "Fe wnaethom ddatblygu ymddiriedaeth yn eitha' cyflym ac roedd Joy yn gallu fy nghefnogi mewn sawl ffordd: helpu gyda'r plant; cynnig help llaw yn ystod gwyliau'r plant; fy helpu gyda'r pethau ymarferol rôn i wedi'u cymryd yn ganiataol o'r blaen ond a oedd bellach yn dasgau anferthol a minnau ar fy mhen fy hun.

"O dipyn i beth fe aeth y tasgau'n llai, ac roedd y problemau nad oedd ateb iddyn nhw bellach yn gallu cael eu datrys. Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg na fyddwn i wedi gallu ymdopi heb help Joy.

"Mae Home-Start yn wasanaeth hanfodol i lawer o bobl sydd â phroblemau amrywiol. Weithiau mae'n anodd gofyn am help - neu hyd yn oed gwybod bod angen help arnoch chi - ond mae pawb angen cymorth yn ystod cyfnodau anodd."

Marie

Fel person caeth i gyffuriau a oedd bellach yn gwella, roedd Marie yn tueddu i 'wrthryfela yn erbyn pawb a phopeth'. Bu ei thri o blant mewn gofal maeth rywbryd neu'i gilydd, roedd hi'n casáu'r byd, a phan ddaeth Ann, gwirfoddolwraig Home-Start i'w gweld, roedd hi'n meddwl 'Dyma ni eto - rhywun arall yn dweud wrtho' i sut i fyw fy mywyd'.

Ond cyn hir newidiodd pethau...

"Fe wnaethom ni gyd-dynnu'n syth ac rôn i'n ei hoffi. Roedd hi'n gallu fy helpu i wynebu realiti fy sefyllfa - ar ôl iddi adael yn dilyn ymweliad rôn i'n teimlo bod llai o bwysau ar fy ysgwyddau. Wnaeth hi ddim trio fy marnu nac edrych i lawr arna' i.

"Roedd fy mhlant yn caru Anne. Roedd hi'n darllen storïau iddyn nhw a siarad gyda nhw, ac fe wnaeth hi roi llawer o sylw iddyn nhw. Roedd hi'n gallu fy helpu i edrych ar fywyd o safbwynt fy mhlant.

"Pan ôn i'n wynebu argyfwng rôn i'n gas iawn wrthi hi, ond roedd hi yno i mi bob amser. Fe deimlais nad oedd fy mhlant, na finnau'n enghreifftiau o achosion mewn gwerslyfr, ond roedd pobl eraill yn fy nhrin fel achos gwerslyfr. Roedd Ann yn ddiffuant. Oni bai am ei help hi fyddwn i ddim fel yr ydw i yn awr.

"Dwi'n benderfynol o ddysgu am yr hyn sydd ei angen i wella fy nheulu. Mae fy ngwirfoddolwraig wedi profi caIedi hefyd, mae hi wedi cael cyfnodau anodd, felly dwi'n gwerthfawrogi'r cariad a'r gofal a ges i ganddi hi.

"Dim rhywbeth dros dro mo Home-Start. Mae'n union fel gwrthfiotig - rydych yn derbyn y cwrs llawn!"

Mary

Mae iselder ar ôl geni'n gallu effeithio ar famau o bob cefndir cymdeithasol, fel y canfu Mary sy'n fam i bedwar o blant. Nid oedd hi'n siŵr a fyddai gwirfoddolwraig Home-Start yn gallu ei helpu hi, ond penderfynodd roi cynnig arni.

"Wrth edrych yn ôl yn awr, gallaf ddweud mai dyna oedd trobwynt fy salwch.

"Rôn i wedi teimlo'n unig, rôn i heb ffrindiau a doedd gen i fawr ddim cefnogaeth gan fy nheulu. O ganlyniad i iselder ysbryd roedd bywyd yn anodd i mi. Person proffesiynol oeddwn i ac roedd gen i yrfa dda, tŷ hyfryd a gŵr caredig. Pa reswm oedd gen i dros fod yn isel fy ysbryd?

"Roedd fy ngwirfoddolwraig hefyd wedi dioddef iselder ysbryd difrifol fel fi, ond roedd hi'n gwella o'r cyflwr. Teimlais fod rhywun arall yn deall yr hyn oedd yn digwydd i mi ac nad oeddwn i ar fy mhen fy hun.

"Mae Home-Start wedi gwneud i mi sylweddoli o'r newydd bod yna bobl garedig yn y byd sy'n fodlon helpu a dangos caredigrwydd yn lle tosturi. Does dim geiriau i ddisgrifio'r help a ges i gan Home-Start a'm gwirfoddolwraig wrth geisio dod i delerau gyda fy salwch. Os yw rhywun yn ystyried defnyddio Home-Start, gallaf eich sicrhau ei fod yn wasanaeth ymarferol, gwerthfawr sy'n gallu gwella'ch bywyd chi, ac yn fwy pwysig, gwella bywyd y plant a'r teulu."

Back to Top