Mae system gefnogi ar gael i bob gwirfoddolwr Home-Start sy'n helpu teuluoedd - o staff sy'n gweithio i'r cynlluniau lleol i staff cenedlaethol Home-Start UK. Er bod Home-Start yn elusen sy'n cefnogi teuluoedd mewn dros 337 o gymunedau gwahanol ledled y DU, mae pob Cynllun Home-Start lleol yn cael ei reoli a'i redeg yn annibynnol gan Ymddiriedolwyr gwirfoddol sydd â phrofiad yn y meysydd allweddol fel rheoli busnes, cyllid, codi arian, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a sgiliau Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol.
Mae'n Hymddiriedolwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac maent yn dod â'u sgiliau unigol i'n cynlluniau lleol. Mae pob un o'n Hymddiriedolwyr yn gwirfoddoli oherwydd maent am wella bywydau rhieni a phlant; y boddhad o wybod eu bod wedi helpu eu cymuned yw'r hyn a gânt yn ôl wedyn. Mewn llawer o achosion mae Ymddiriedolwyr yn gallu datblygu'u sgiliau a'u gwybodaeth bersonol hefyd.
Ymddiriedolwyr ar bwyllgor rheoli'r cynllun sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun ac am sicrhau ei fod yn gweithredu yn unol â'i gyfansoddiad a'r Cytundeb Home-Start. Mae Home-Start yn cyflogi ac yn goruchwylio trefnydd/cydgysylltydd sy'n gweinyddu'r cynllun ac yn goruchwylio ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.
Mae ymddiriedolwyr y pwyllgor rheoli yn gyfrifol am:
- Reoli'r cynllun yn effeithiol, gan gynnwys gofalu am arian, yswiriant ac adeiladau
- Rhoi gweithdrefnau ac arferion da ar waith wrth gyflogi a goruchwylio staff
- Sicrhau bod polisïau ym meysydd cyfle cyfartal ac iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
- Darparu gweledigaeth, arweiniad a chyfeiriad
- Monitro a gwerthuso gwaith y cynllun yn rheolaidd
Gall ymddiriedolwyr gyfrannu'n sylweddol at bwyllgor rheoli trwy fod yn gadeirydd, yn drysorydd neu'n ysgrifennydd, neu gallant fod yn aelod sy'n cyflawni gwaith ymarferol neu ymgynghorol.
Fel rhan o ymrwymiad Home-Start i hyfforddiant a chefnogaeth, mae pob ymddiriedolwr yn mynd ar raglen gynefino, ac maent yn derbyn hyfforddiant parhaus mewn meysydd fel gwaith tîm, cyfathrebu, cynllunio strategol, materion cyfrinachedd, cyfle cyfartal, iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant.

