Cymraeg

Beth rydym ni’n ei wneud

Mae Home-Start yn helpu teuluoedd â phlant ifanc i ymdopi â bywyd, beth bynnag a ddaw. Rydym yn cefnogi rhieni wrth iddyn nhw ddysgu sut i ymdopi, wrth iddyn nhw fagu hyder a chreu bywydau gwell i’w plant. Mae manteision ein cymorth yn cynnwys iechyd a lles gwell, a meithrin gwell perthynas rhwng teuluoedd.

Cymorth un-i-un i rieni

Mae ein gwirfoddolwyr yn treulio ychydig oriau’r wythnos yng nghartre’r teulu, gan gynnig cymorth wedi’i deilwra i anghenion y rhieni a’u plant. Mae’r gwirfoddolwyr yn ymroddedig dros ben, a byddant yn dal i ymweld â’r teulu tan fod y plentyn ieuengaf yn 5 oed neu pan fydd y rhieni’n teimlo eu bod yn gallu ymdopi eu hunain. Mae rhieni a gwirfoddolwyr yn aml yn datblygu perthynas dda ac yn ymddiried yn ei gilydd, sy’n gallu arwain at newidiadau grymus iawn o fewn teulu. Rydym hefyd yn cynnal grwpiau i deuluoedd a digwyddiadau cymdeithasol iddyn nhw.

Profiad, ymrwymiad, ymddiriedaeth

Mae Home-Start wedi datblygu o un cynllun ym 1973 i gannoedd o gynlluniau lleol heddiw. Mae’r holl arbenigedd a gwybodaeth rydyn ni wedi’u casglu dros y blynyddoedd wedi helpu Home-Start i ddatblygu i’r hyn ydyw heddiw - prif elusen cefnogaeth i deuluoedd y DU a sefydliad y mae teuluoedd a gweithwyr proffesiynol o bob math yn ei werthfawrogi ac yn ymddiried ynddo.

Dechreuodd Home-Start gefnogi teuluoedd yng Nghymru yng Nghonwy ym 1983.

Bellach, mae gennym 16 o gynlluniau lleol Home-Start ledled y wlad, o Gonwy i Gaerdydd, Ceredigion i Wrecsam.

Yn 2015/16 fe wnaeth Home-Start helpu 1,238 o deuluoedd.