Gwelwyd staff ac ymddiriedolwyr o Home-Starts ledled Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant cyd-gynhyrchu yn ystod Tachwedd 2018 i lansio prosiect Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio .

Yn sgil y hyffordiant, rhoddwyd prosiect newydd ar waith fydd yn cefnogi teuluoedd y mae tlodi yn y gwaith yn effeithio arnynt, sydd wedi’i ariannu gan Loteri Fawr Cymru.

Bydd y prosiect yn ymgorffori sgiliau cyd-gynhyrchu o fewn ein rhwydwaith yng Nghymru, fydd yn llywio’r cymorth i deuluoedd.

Mae Home-Start yng Nghymru wedi cael £499,000 gan y Gronfa Loteri Fawr dros bedair blynedd.Fel rhan o’r cyllid arloesol, bydd Home-Starts yn defnyddio eu profiad o weithio gyda theuluoedd i ymgysylltu â rhieni i ddeall y problemau ariannol a wynebir ganddynt ac i ddylunio gwasanaethau cefnogol i ddiwallu eu hanghenion.

Big Lottery logoDywedodd Bethan Webber, Cyfarwyddwr Cymru, Home-Start UK “Rydyn ni wrth ein bodd i fod rhan o’r rhaglen Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Loteri Fawr Cymru am gydnabod pwysigrwydd cyd-gynhyrchu i sicrhau canlyniadau gwell i deuluoedd, ac yn allweddol, yr angen i roi lle, amser ac adnoddau er mwyn gallu rhoi arferion cyd-gynhyrchu go iawn ar waith”.

Gall teuluoedd symud i mewn ac allan o dlodi yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ar y pryd. Bydd Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio yn annog pobl a sefydliadau i gydweithio i feddwl am atebion i wella bywydau teuluoedd â phlant y mae tlodi yn effeithio arnynt.

.