Mae llawer o rieni angen help, cyfeillgarwch, cyngor neu gymorth yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny pan fydd eu plant yn ifanc.

Does dim rheolau i'ch helpu i fagu teulu a gall deimlo fel gormod o faich ar brydiau, yn enwedig os yw pethau’n anodd i’ch teulu am gyfnod.

Ond os gallwch chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch pan fo’i angen, yna gall bywyd bob dydd eich teulu a dyfodol eich plant fod yn llawer mwy disglair.

Ydych chi’n teimlo fel hyn weithiau?

  • Teimlo’n unig yn eich cymuned, heb deulu gerllaw ac yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau.
  • Dioddef o salwch ôl-enedigol ond yn cael trafferth siarad ag unrhyw un amdano
  • Cael trafferth ymdopi â salwch eich plentyn
  • Marwolaeth rhywun agos yn anodd ymdopi ag ef
  • Cael trafferth gyda’r pwysau emosiynol a chorfforol o gael gefeilliaid, tripledi neu fwy
  • Cael trafferth ymdopi ag anabledd neu broblemau mewn perthynas
  • Yn flinedig, yn anhapus ac wedi blino’n lân

…neu unrhyw broblem debyg

Canllaw cyflym i gymorth Home-Start

Gallech chi fanteisio ar help Home-Start os ydych:

  • Yn teimlo’n unig neu wedi’ch ynysu yn eich cymuned, heb deulu gerllaw ac yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau.
  • Yn cael trafferth ymdopi gan fod eich plentyn yn sâl neu am eich bod chi’n sâl.
  • Yn teimlo ei bod yn anodd ymdopi â marwolaeth rhywun agos.
  • Yn cael trafferth gyda’r pwysau emosiynol a chorfforol o gael babi, plant ifanc, gefeilliaid neu dripledi.
  • Angen help gyda phethau ymarferol fel rheoli’ch arian neu fwyta’n iach.
  • Angen cael gwybod beth sydd ar gael yn lleol i rieni a phlant, ond ddim yn gwybod lle i fynd neu heb yr hyder i ofyn neu ymuno.
  • Eisiau cael gwybod am gyrsiau addysg bellach lleol ond ddim yn gwybod lle i ddechrau 

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • Wedi i chi ofyn am ein cymorth, byddwch chi’n cwrdd ag un o’n trefnwyr lleol a fydd yn eich paru’n ofalus gydag un o’n gwirfoddolwyr.
  • Bydd eich gwirfoddolwr yn ymweld â chi yn eich cartref am awr neu ddwy’r wythnos.
  • Chi sy’n dewis cael gwirfoddolwr Home-Start, felly chi sy’n penderfynu pryd ddylai cefnogaeth Home-Start ddod i ben.
  • Gallwch ymuno yn ein grwpiau teulu neu weithgareddau cymdeithasol hefyd pe dymunwch.

Gall Home-Start eich helpu chi a’ch teulu

Os oes gennych chi o leiaf un plentyn dan bump oed, gallwn ni helpu. Rydym yn cynorthwyo miloedd o rieni fel chi trwy ein gwirfoddolwyr Home-Start. Mae’r gwirfoddolwyr yn rhieni eu hunain neu mae ganddynt brofiad fel rhieni - felly maent yn gwybod yn union sut rydych chi’n teimlo.

Byddant yn ymweld â chi yn eich cartref – unwaith yr wythnos fel arfer. Chi fydd yn penderfynu beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch gilydd.

Efallai mai rhywun diduedd i siarad â nhw sydd ei angen arnoch; rhywun i fod yn gysur i chi neu rywun i chwarae neu ddarllen gyda’ch plant o bosibl; ychydig o gymorth i’ch helpu i gadw apwyntiadau meddygol efallai neu i ddarganfod beth arall sydd ar gael yn lleol. Chi biau’r dewis.


Mae am ddim ac yn gyfrinachol

Nid oes rhaid i chi dalu am gymorth Home-Start ac mae’n gyfrinachol. Bydd gwirfoddolwyr Home-Start yn
parchu eich preifatrwydd ac ni fyddant yn anghofio mai chi sydd wedi’u gwahodd i’ch cartref.


Mae gan Home-Start flynyddoedd o brofiad

Elusen sy’n gweithredu ledled Prydain yw Home-Start sydd â channoedd o brosiectau mewn cymunedau lleol. Mae ein prosiectau Home-Start lleol yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr sy’n rhieni. Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, felly gallwch fod yn gwbl hyderus bod eich gwirfoddolwr wedi cael ei hyfforddi’n llawn ac yn addas ar eich cyfer chi - byddant wedi cael gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol hefyd er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel.


Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw gofyn

Siaradwch â’ch meddyg neu ymwelydd iechyd neu cysylltwch â ni. I gael gafael ar eich Home-Start agosaf, ffoniwch 0800 068 63 68 yn ddi-dâl neu ewch i’r wefan www.home-start.org.uk/find-your-nearest_home-start. Os byddwch chi’n gofyn am gymorth, bydd un o’n trefnwyr lleol yn trafod eich anghenion gyda chi a’ch paru’n ofalus gyda gwirfoddolwr.